Bethania, Capel y Bedyddwyr, Maesteg.,
Cynllun y pensaer William Beddoe Rees ar gyfer ailadeiladiad y capel yn 1908. © Hawlfraint y Goron: CBHC
Mae gan bob tref a phentref yng Nghymru gapeli.Maent wedi chwarae rhan bwysig yn natblygiad ein cymdeithas. Mae'r adeiladau trawiadol - weithiau'n gartrefol, weithiau'n hynod, ond yn aml ynysblennydd - wedi cyfrannu'n helaeth at olwg ein gwlad. Heddiw mae'r cynulleidfaoedd a'r adeiladau yn diflannu'n gyflym.
Mae aelodau Capel yn dathlu hanes a phensaerïaeth ein capeli.Rydym yn ymweld â nhw er mwyn clywed am eu hanes a gweld eu hadeiladau hardd. Pan mae'n rhaid iddynt gau ceisiwn sicrhau bod eu harchifau'n ddiogel a bod yr adeiladau'n cael eu defnyddio'n addas.
Rydym yn gymdeithas gwirfoddol gyda mwy na 300 o aelodauar hyn o bryd yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a'r Unol Daleithiau. Rydym yn croesawu aelodau newydd!
mwy....
Digwyddiadau
08/05/2010:
Cyfarfod y Gwanwyn
09/10/2010:
Cyfarfod yr Hydref
Manylion llawn
Newyddion
Capeli yn Llanelli Cyhoeddwyd llyfr pwysig newydd gan Huw Edwards, Capeli Llanelli: Our Rich Heritage ar 5 Rhagfyr.
(20-11-2009) mwy...
Cadeirydd Newydd Etholwyd Meirick Lloyd Davies yn Gadeirydd newydd Capel
(20-11-2009) mwy...
Newyddion i gyd