ENGLISH
Cyssegr, Capel yr Annibynnwyr, Beddgelert.,
Adeiladwyd y capel presennol yn 1853 a helaethwyd yn 1903. Addaswyd yn ddiweddar. © Hawlfraint y Goron: CBHC
CYSYLLTU Â NI
 

Y Ffeithiau

Mae capeli yn cau yng Nghymru ar raddfa o un yr wythnos
Mae llawer o gynulleidfaoedd yn ei chael yn anodd i gynnal eu hadeiladau
Bob blwyddyn mae nifer helaeth o gofnodion a dogfennau capeli yn cael eu dinistrio neu'n mynd ar goll, er gwaethaf y ffaith bod anghydffurfiaeth yn bwysig iawn yn hanes Cymru a'r cymunedau lleol
Dymchwelir dwsinau o gapeli bob blwyddyn, tra bo eraill yn cael eu trawsnewid yn anaddas a hynny heb gadw llun na chofnod ohonynt
Mae llawer o gapeli o werth pensaernïol arbennig ond ychydig sy'n cael eu diogelu trwy roddi iddynt statws adeiladau cofrestredig

Ffurfiwyd Capel er mwyn...

Hyrwyddo astudiaeth a chadwraeth etifeddiaeth Anghydffurfiol Cymru
Cynnig gwybodaeth a chyngor i gynulleidfaoedd ar ffyrdd i gynnal a chadw eu hadeiladau
Cofnodi ac astudio pensaernïaeth capeli
Annog capeli i ddiogelu eu cofnodion
Annog addasu gofalus capeli nad oes eu hangen bellach ar gyfer eu bwriad gwreiddiol

Mae gweithgareddau Capel yn cynnwys: Digwyddiadau Cyhoeddiadau

Sut i ymuno â Capel...