Jerwsalem, Capel y Methodistiaid Calfinaidd, Bethesda.,
Adeiladwyd y capel yn 1842 a helaethwyd yn 1874-5 yn y dull Glasurol yn dilyn cynllun Richard Davies, Bangor. © Hawlfraint y Goron: CBHC
Rhoddwyd y catalog diddorol hwn i ofal Capel gan ddau o'n haelodau, sef Glenys a Derrick Deane. Nid oes dyddiad ar y catalog ond mae'n debyg y cyhoeddwyd yn gynnar yn yr ugeinfed ganrif. Mae catalogau fel hyn yn werthfawr iawn fel ffynonellau gwybodaeth am ddodrefn ein capeli. Byddwn yn falch iawn o glywed gan aelodau sydd â gwybodaeth o eitemau tebyg. Ceir nodyn am y catalog yn ein
Cylchlythyr rhif 48.
Mae'r catalog ar gael fel ffeil PDF. Maint y ffeil yw tua 10MB, a fydd yn cymryd tua 30 munud i lawrlwytho drwy modem, ond llawer llai drwy band llydan.
Darllenwch Catalog Harry Gibbon
Rhaid i chi ddefnyddio rhaglen Adobe Reader (neu rywbeth tebyg) i ddangos ffeiliau PDF. Mwy na thebyg mae copi ar eich cyfrifiadur eisoes, ond os nad oes, mae modd lawrlwytho'r meddalwedd yma: