Llyfrgell
Genedlaethol Cymru (LlGC)
Mae'r Llyfrgell
yn creu cronfa ddata yn rhestru cofysgrifau o gapeli Anghydffurfiol sydd
mewn archifdai. Mae'r gronfa ddata ar gael i ddefnyddwyr yn ystafell gatalog
yr Adran (am oriau agor ymwelwch â gwefan
Llyfrgell Genedlaethol Cymru)
Comisiwn Brenhinol
Henebion Cymru (CBHC)
Mae'r Comisiwn
Brenhinol ar hyn o bryd yn cyd-drefnu'r gwaith o gofnodi capeli Anghydffurfiol
yng Nghymru. Yr amcan yw cynhyrchu cofnod ysgrifenedig o bob capel ynghyd
â chofnod ffotograffig, lle mae modd gwneud hynny. Gwneir cofnodion
mwy manwl, gan gynnwys arolygon mesuredig, o adeiladau a ystyrir o bwysigrwydd
arbennig o ran penseirnïaeth, hanes neu grefydd. Crëir cronfa
ddata sydd ar gael trwy wefan
y Comisiwn Brenhinol. Gellir hefyd ei gweld yn llyfrgell Cofnodion
Henebion Cenedlaethol Cymru yng Nghomisiwn Brenhinol Henebion Cymru (am
oriau agor ymwelwch â gwefan
y Comisiwn Henebion).
Bydd Capel yn falch
o wybod am unrhyw gynlluniau eraill. Cysylltwch â'r ysgrifennydd
ar y cyfeiriad ebost canlynol:
peter.mason18@btopenworld.com