
| Llawr-y-glyn, Capel y Methodistiaid Wesleaidd,
Trefeglwys, Sir Drefaldwyn - Agorwyd y capel cyntaf yn 1844.
Pan ddaeth yn rhy fach i'r gynulleidfa adeiladwyd y capel presennol yn 1872. |
|
Y Ffeithiau
- Mae capeli yn
cau yng Nghymru ar raddfa o un yr wythnos
- Mae llawer o
gynulleidfaoedd yn ei chael yn anodd i gynnal eu hadeiladau
- Bob blwyddyn
mae nifer helaeth o gofnodion a dogfennau capeli yn cael eu
dinistrio neu'n mynd ar goll, er gwaethaf y ffaith bod
anghydffurfiaeth yn bwysig iawn yn hanes Cymru a'r cymunedau
lleol
- Dymchwelir
dwsinau o gapeli bob blwyddyn, tra bo eraill yn cael eu
trawsnewid yn anaddas a hynny heb gadw llun na chofnod ohonynt
- Mae llawer o
gapeli o werth pensaernïol arbennig ond ychydig sy'n cael eu
diogelu trwy roddi iddynt statws adeiladau cofrestredig
Beth Rydym Yn Ei Wneud
|