Capel: Cymdeithas Treftadaeth y Capeli


Beth Rydym Yn Ei Wneud

Llun o Gapel Wesleaidd Ebeneser, Caernarfon
 
Capel Wesleaidd Ebeneser, Caernarfon. Adeiladwyd y capel yn wreiddiol yn 1805/6 i gynllun Evan Roberts, Dinbych. Ailadeiladwyd/newidiwyd yn 1825/6 yn y dull Gothig i gynllun John Lloyd, Caernarfon. Newidiwyd ac atgyweiriwyd yn 1875/6 i gynllun Richard Davies, Bangor.

Ffurfiwyd Capel er mwyn...

  • Hyrwyddo astudiaeth a chadwraeth etifeddiaeth Anghydffurfiol Cymru
  • Cynnig gwybodaeth a chyngor i gynulleidfaoedd ar ffyrdd i gynnal a chadw eu hadeiladau
  • Cofnodi ac astudio pensaernïaeth capeli
  • Annog capeli i ddiogelu eu cofnodion
  • Annog addasu gofalus capeli nad oes eu hangen bellach ar gyfer eu bwriad gwreiddiol

Mae gweithgareddau Capel yn cynnwys...

Delwedd saeth (cysylltu â Digwyddiadau)  Digwyddiadau
Delwedd saeth (cysylltu â Chyhoeddiadau)  Cyhoeddiadau

 

Cysylltwch â Ni | Cartref | English